Amlinelliad o'r testun
testun 1
Gŵyl Gerddoriaeth Gymreig
Rydych chi newydd gael eich penodi yn rheolwr gwyl gerddoriaeth newydd a fydd yn cael ei chynnal yng Nghymru. Tîm rheoli fydd yn trefnu’r wyl, a bydd y tîm yn cynnwys pobl leol, cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol, a chi. Eich tasgau allweddol chi fydd:
Tasg 1 - Ymchwilio a phenderfynu ar enw a logo i’r wyl
Tasg 2 - Diweddaru’r gronfa ddata Masnachwyr a’i defnyddio wrth gynllunio
Tasg 3 - Dylunio a chreu dogfennau allweddol a deunydd cyhoeddusrwydd i’r wyl
Tasg 4 - Rheoli costau sy’n gysylltiedig â chynllunio cychwynnol
Tasg 5 - Cysylltu’n electronig â thîm rheoli’r wyl, gan gyflwyno cynlluniau’r wyl a rhagamcan o’r gosttestun 2
Tasg 1 - Ymchwilio a phenderfynu ar enw a logo i’r wyl (OCR - AO2a)
Cyn i chi ddechrau mynd ati i ddatblygu logos, dogfennau a chyflwyniadau i’r wyl, mae’n bwysig i chi wneud gwaith ymchwil am syniadau, dyluniadau, cynlluniau ac ystyriaethau eraill wrth drefnu digwyddiad ar raddfa fawr.
- Ymchwiliwch ar y we, gan bwyso a mesur dogfennau a chreu delwedd gorfforaethol.
- Download Workbooks
Upload your workbook below
testun 3
Tasg 2 – Gweithio gyda’r Gronfa Ddata Masnachwyr (OCR - AO6)
Yn y dasg hon, fe fyddwch chi’n diweddaru ac yn defnyddio ffeil gronfa ddata o’r enw Masnachwyr - anfonir hon ar e-bost atoch chi. Yn y gronfa ddata, mae manylion y masnachwyr a fydd yn gwerthu pethau ar safle’r wyl. Fe fyddwch chi’n bwydo, yn golygu ac yn dileu data, yn ôl gofynion y tîm rheoli. Fe fyddwch chi’n chwilio am ddata sy’n berthnasol i geisiadau’r tîm rheoli ac ar lefelau uwch fe fyddwch chi hefyd yn trefnu data ac yn argraffu adroddiad(au).
Download Workbooks
Upload your workbook below
testun 4
Tasg 3 – Dylunio a chreu dogfennau allweddol a deunydd cyhoeddusrwydd i’r wyl (OCR - AO4)
Yn y dasg hon, fe fyddwch chi’n dylunio ac yn creu dogfennau allweddol a deunydd cyhoeddusrwydd i’r wyl. Mae angen dylunio pob dogfen yn ofalus, gan ystyried y gynulleidfa dan sylw a phwrpas y ddogfen.
Download Workbooks
Upload your workbooks below
testun 5
Tasg 4 - Rheoli costau sy’n gysylltiedig â chynllunio cychwynnol (OCR - AO5)
Mae’r tîm wedi gofyn i chi greu taenlen a fydd yn eu helpu nhw i fodelu costau cynnal yr wyl. Mae angen iddynt ofalu y bydd y costau mynediad ac incwm arall yn ddigon i ad-dalu’r costau ond hefyd yn gwneud elw i sicrhau y gellir cynnal yr wyl mewn blynyddoedd i ddod.
Download Workbooks
Upload your workbook below
testun 6
Tasg 5 – Cyflwyno cynlluniau’r wyl a rhagamcan o’r costau (OCR - AO2b and AO3)
Mae’r tîm rheoli wedi gofyn i chi gyflwyno eich cynlluniau cychwynnol a rhagamcan o’r costau i weddill y tîm yng nghyfarfod y tîm rheoli nesaf. Bydd angen i chi roi braslun o’ch cynlluniau cychwynnol gyda phwyslais arbennig ar incwm a gwariant a ragwelir.
Download Workbooks
Upload your workbook below
testun 7
Tasg 6 - Arferion Gweithio Diogel (AO1):
Complete the workbook as a standalone unit. It is not within the Welsh Music Festival context.
- Download Workbooks
Upload your workbook below
Lawrhlwytho Cwrs - Download Course