Cyffredinol

Croeso i Adran Siarter Iaith Gymraeg Ysgolion Cynradd Gwynedd ar safle Moodle Cynnal. Gallwch ddefnyddio'r adrannau isod i hyrwyddo a datblygu defnydd cymdeithasol plant a phobl ifanc o'r Gymraeg ynghyd â gwaith yr ysgol mewn perthynas â gweithio tuag at achrediadau saith nôd y Siarter Iaith.
Siarter Iaith Gymraeg Ysgolion Cynradd Gwynedd
Mae Siarter Iaith Gymraeg Ysgolion Cynradd Gwynedd yn deillio o waith manwl y Gweithgor Dylanwadu ar Ddefnydd Cymdeithasol Plant o’r Gymraeg. Ei phrif ddiben yw sicrhau bod y Gymraeg, a defnydd cymdeithasol ein plant a phobl ifanc ohoni yn ffynnu. Defnyddir saith nôd y siarter fel offerynnau i fesur cynnydd yn y defnydd o’r iaith ynghyd â llwyddiant cynlluniau ein hysgolion.
Mae'r adran hon yn cynnwys cyflwyniad i'r Siarter Iaith ynghyd â'r ddogfen ei hunan.
Gweithgor Dylanwadu ar Ddefnydd Cymdeithasol Plant o’r Gymraeg
Sefydlwyd y gweithgor hwn er mwyn ymateb i dystiolaeth a chanfyddiadau yr ymchwil a gomisiynwyd gan hunaniaith (sef Grŵp Hyrwyddo Iaith Gwynedd) i’r defnydd cymdeithasol o’r iaith Gymraeg sydd yn digwydd yn ein hysgolion. Mae aelodau'r gweithgor yn dod o amryw o gefndiroedd proffesiynol gwahanol, ond yn rhannu'r un nôd - sef hyrwyddo a chynyddu defnydd ein plant a’n pobl ifanc o'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae'r gweithgor yn cyfarfod yn rheolaidd, ac ymhlith ei ddeilliannau hyd yma mae Cynhadledd Yr 'C' Ffactor a'r Siarter Iaith ei hun.
Prif waith y gweithgor yn ystod 2011-2012 fydd mynd ati i enghreifftio’r gwobrau efydd, arian ac aur ar gyfer saith nôd y Siarter Iaith.
Mae'r adran hon yn cynnwys cefndir, briff ac aelodaeth y gweithgor ynghyd â rhaglenni a chofnodion y cyfarfodydd.
Cynhadledd Yr 'C' Ffactor: Nant Gwrtheyrn – 9 Mehefin 2011
Cynhaliwyd y gynhadledd hon yn ysblander naturiol Nant Gwrtheyrn; mae gan y lleoliad, oherwydd ei hanes mewn perthynas â'r Gymraeg, gyswllt amlwg gydag egwyddorion craidd y Siarter Iaith. Pwrpas y diwrnod oedd codi ymwybyddiaeth penaethiaid ysgolion Gwynedd o sefyllfa'r iaith Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu cymdeithasol. Hwylusydd y diwrnod oedd y darlledwr adnabyddus Dewi Llwyd, a chafwyd cyfraniadau gan Debbie Anne Williams Jones, Garem Jackson, Dewi R. Jones, Iolo Dafydd ac Aeron Rees.
Yn ystod y gynhadledd soniwyd am y Siarter Iaith yn gyhoeddus am y tro cyntaf gan y Pennaeth Addysg, Mr. Dewi R. Jones.
Mae'r adran hon yn cynnwys anerchiad agoriadol y Pennaeth Addysg, lluniau o'r gynhadledd a'r cyflwyniadau fideo a PowerPoint a welwyd ar y diwrnod.
Adnoddau
Mae'r adran hon yn cynnwys yr adnoddau sydd ar gael i hyrwyddo'r Siarter Iaith a chynorthwyo gyda'r gwaith o dderbyn achrediadau ym mhob un o'r saith nôd. Mae'r adnoddau yn cynnwys cyflwyniadau fideo o'r arferion da a'r gweithgareddau, canllawiau ar sut i'w defnyddio a'r adnoddau ymarferol eu hunain.
Ychwanegir at yr adran hon yn rheolaidd fel y daw arferion da eraill i sylw'r gweithgor.
Arfer Da/Tystiolaeth
Mae'r adran hon yn cynnwys enghreifftiau o arfer da a thystiolaeth ar gyfer cyflawni nodau y Siarter Iaith.
Ychwanegir gwaith y dalgylchoedd i’r adran hon fel y bydd yn cael ei gyflawni.