Ffrithiant uchel ac isel |
||||
Siaradwch gyda phlant am arwynebau sydd â ffrithiant uchel neu isel rhyngddynt a gwneud rhestr sy’n dangos sefyllfaoedd pob dydd ble mae ffrithiant uchel yn ddefnyddiol e.e. teiars ar geir a beiciau, a sefyllfaoedd pob dydd ble mae ffrithiant isel yn ddefnyddiol e.e. sglefrio, llithren mewn cae chwarae. Grwpio arwynebau i ‘ffrithiant uchel’ a ‘ffrithiant isel’. Rhowch gyd-destun pob dydd e.e. gafael ar handlenni beic neu dynnu drôr o ddesg a phenderfynu a yw’n bwysig i ffrithiant fod yn uchel neu’n isel. [Ymholiad defnyddio a chymhwyso modelau]
|