Modelu dydd a nos
|
||||
Gweithgaredd ydi hon sy'n modelu dydd a nos. Gofynnwch i'r dysgwyr ragfynegi sut ydym yn cael dydd a nos. Defnyddiwch glôb a thorts i ddangos sut mae symudiad y ddaear yn rhoi dydd a nos i ni. Gofynnwch i'r disgyblion esbonio beth yw hyd diwrnod (24 awr) a fod hyn yn cyfateb i'r Ddaear yn troi unwaith ar ei hechelin. Gellir defnyddio safwe Cynnal ar lein yn ogystal i ddangos hyn. Cliciwch yma i agor yr adnodd Gwyddoniaeth Ar Lein 'Y Ddaear a Thu Hwnt' [Ymholiad defnyddio a chymhwyso modelau]
|
Diweddarwyd diwethaf: Tuesday, 8 May 2012, 4:16 PM