TASG 4 (AO5): Modelu Costau
Llyfr Gwaith: Tasg4 – AO5 (Taenlen).ppt
Canllaw i Fyfyrwyr ar gyfer Tasg 4:
Bydd angen rhoi dadansoddiad i’rtîm rheoli o’r costau a braslun o’r gwahanol sefyllfaoedd allai effeithio arlwyddiant yr ŵyl e.e. tywydd da/gwael, costau hysbysebu, posibilrwydd o gynnigcyfleusterau gwersylla, parcio car – am ddim/tâl, bandiau enwog.
Defnyddiwchyr wybodaeth isod i greu eich taenlen/model.
Costau:
- mae angen amryw o stiwardiaid am £100 y dydd (tua 1 stiward i bob 50 o bobl yn yr ŵyl)
- 12 band, ar y mwyaf, sy’n gallu chwarae - mae’r rhain wedi’u rhoi mewn tri dosbarth (isod):
- bandiau ar restr “A” sy’n costio hyd at £5,000 yr un
- bandiau ar restr “B” sy’n costio hyd at £2,500 yr un
- bandiau ar restr “C” sy’n costio hyd at £1,000 yr un
- lleoliad a chostau gwasanaethau £10,000 (mae hyn yn cynnwys trydan, dŵr, sbwriel, man parcio)
- costau hysbysebu o £5,000 i ddechrau.
Incwm:
Dyma’r ffynonellau incwm:
- incwm rhent masnachwyr
- Maint 1 - £750 (5 i 8 ar gael)
- Maint 2 - £500 (8 i 10 ar gael)
- Maint 3 - £250 (hyd at 12 ar gael)
(mae digon o blotiau i 25 o fasnachwyr) - gwerthu tocynnau (efallai y byddwch chi’n penderfynu cael prisiau gwahanol ar gyfer tocynnau a brynir o flaen llaw a thocynnau a brynir wrth y drws)
- parcio ceir
- costau gwersylla
- mae’r Frigâd Dân wedi cadarnhau bod y lleoliad yn gallu dal 1500 o bobl ar y mwyaf er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth bresennol
- rydych chi wedi cael cyllideb gychwynnol o £50,000
- disgwylir i’r ŵyl wneud elw o £10,000 o leiaf.
- yn glir ac yn hawdd i’w darllen a’i deall
- yn defnyddio fformiwlâu a ffwythiannau priodol
- wedi’i fformatio fel bod modd ei hargraffu yn hawdd (gwedd normal a fformiwla)
- yn dangos elw neu golled cyffredinol
- yn gallu newid gwerthoedd e.e. prisiau tocynnau, gwerthiant, a chostau neu incwm arall, i fodelu’r effaith a gaiff hyn ar yr elw/colled cyffredinol
- gallu ychwanegu neu ddileu costau neu incwm ychwanegol.
O’ch gwaith ymchwil yn Nhasg 1,gallwch ymchwilio i gostau’r canlynol:
· gwerthu nwyddau i gofio am yr ŵyl
Ystyriaethau:
Meini Prawf Llwyddiant:
Rhaid i chi ddangos tystiolaeth bod eich taenlen fodel:
Diweddarwyd diwethaf: Tuesday, 8 May 2012, 4:16 PM