TASG 5 (AO3 a AO2b): Cyflwyniad Busnes
Llyfr Gwaith: Tasg5 – AO3 (Cyflwyniad).ppt
Canllaw i Fyfyrwyr ar gyfer Tasg 5:
Yn y dasg hon, fe fyddwch chi’n defnyddio meddalweddcyflwyno i greu cyflwyniad i dîm rheoli’r ŵyl. Mae angen i’ch cyflwyniad chiganolbwyntio ar gyfleu’r wybodaeth hon:
- Manylion yr ŵyl – dyddiadau, lleoliad, sêr yr ŵyl, ac ati,
- Math o ddeunyddiau cyhoeddusrwydd sy’n cael eu datblygu – dangoswch rai enghreifftiau.
- Enghraifft o ddyluniad tocyn yr ŵyl.
- Incwm a gwariant a ragwelir
- prif incwm a gwariant ar ffurf tablau
- data priodol ar ffurf siart
- gwerthiant tocynnau a ragwelir a modelu elw/colled/heb ennill na cholli
- canlyniad ymchwilio i fodelu ariannol
- Unrhyw wybodaeth addas arall.
Mae angen i’ch cyflwyniad chi fod yn 5 sleid neu fwy, adangos y nodweddion hyn:
- Arddull cwmni gyson ar draws pob sleid
- Defnyddio testun priodol a graffeg briodol
- Effaith trawsnewid rhwng sleidiau ac animeiddiadau sy’n briodol i’r pwrpas a’r gynulleidfa
- Dim gwallau a safon sydd bron â bod yn broffesiynol
- Nodiadau siaradwr wedi’u hychwanegu ble bo hynny’n briodol
- Cyflwyniad wedi’i argraffu ar ffurf taflenni gyda nodiadau
Diweddarwyd diwethaf: Tuesday, 8 May 2012, 4:16 PM