
TASG1 (AO2a): Ymchwilio ar y We a Dylunio Logo
Llyfr Gwaith: Tasg 1 – AO2a (Y We).ppt
Canllaw i Fyfyrwyr ar gyfer Tasg1:
CHWILIO AR Y WE
Eich tasg chi yw chwilio ar y we am wybodaeth berthnasola fydd yn dweud wrthych chi sut mae gwyliau cerddoriaeth eraill yn cael eucyflwyno, a chwilio am wybodaeth a fydd yn eich helpu chi i drefnu a datblygueich gŵyl (Tasgau 3 a 5). Cofiwch y bydd angen i chi benderfynu ar enw i’r ŵyl,a ble y caiff ei chynnal.
Gallai eich gwaith ymchwil chi gynnwys y canlynol (a fyddyn cael ei ddefnyddio yn eich deunyddiau hyrwyddo ac ati):
- edrych ar wefannau gwyliau eraill ar gyfer syniadau am arddull cwmni, logos, yr wybodaeth a gyflwynir i gynulleidfaoedd ac ati.
- costau arferol i bobl sy’n mynd i ŵyl e.e. tocyn, parcio car, gwersylla, nwyddau i gofio am yr ŵyl
- dod o hyd i wybodaeth neilltuol am fandiau allai fod yn perfformio
- dod o hyd i wybodaeth am wasanaethau lleol a llefydd i aros
- chwilio am ddelweddau penodol
- chwilio am fapiau a’u haddasu i’w cynnwys mewn cyhoeddiadau.
Dylech chi feddwl yn ofalus am y meini prawf chwilio yrydych chi’n eu defnyddio wrth chwilio ar y we, a chofio dangos tystiolaeth osut yr ydych chi wedi defnyddio Chwiliad Uwch i ddod o hyd i wybodaeth benodol.
- Cofnodwch bob chwiliad (yn y tabl yn y llyfr gwaith);
- Defnyddiwch saethiadau sgrin i ddangos meini prawf a chanlyniadau chwilio (rhowch dystiolaeth yn y llyfr gwaith).
Wrth chwilio ar y we, dylech chi:
- gadw cofnod o gyfeiriadau'r holl wefannau addas yr ydych chi wedi dod ar eu traws/eu defnyddio, gan gofnodi perthnasedd yr wybodaeth a gafwyd, URL ac ati.
- cadw cyfeiriadau defnyddiol fel ffefrynnau/dalen-nodau a’u trefnu’n briodol mewn ffolderi.
- egluro materion hawlfraint a rhoi sylwadau ar ddilysrwydd a dibynadwyedd yr wybodaeth a ddefnyddir (gwefannau dibynadwy e.e. .gov, BBC; a yw’r wybodaeth yn ddiweddar? Pwy yw’r awdur?).