TASG 5 (AO3 a AO2b): Cyflwyniad Busnes
Canllaw i Athrawonar gyfer Tasg 5:
Bydd angen i’r disgyblion ddefnyddiomeddalwedd cyflwyno i greu cyflwyniad i dîm rheoli’r ŵyl.
Mae angen i’r cyflwyniad ganolbwyntio argyfleu’r wybodaeth hon:
- Manylion yr ŵyl – dyddiadau, lleoliad, sêr yr ŵyl, ac ati,
- Math o ddeunyddiau cyhoeddusrwydd sy’n cael eu datblygu – dangoswch rai enghreifftiau.
- Enghraifft o ddyluniad tocyn yr ŵyl.
- Incwm a gwariant a ragwelir
- prif incwm a gwariant ar ffurf tablau
- data priodol ar ffurf siart
- gwerthiant tocynnau a ragwelir a modelu elw/colled/heb ennill na cholli
- canlyniad ymchwilio i fodelu ariannol
- Unrhyw wybodaeth addas arall.
Mae angen i’r cyflwyniad chi fod yn 5 sleidneu fwy, a dangos y nodweddion hyn:
- Arddull cwmni gyson ar draws pob sleid – defnyddio Meistr Sleidiau
- Defnyddio testun priodol a graffeg briodol
- Effaith trawsnewid rhwng sleidiau ac animeiddiadau sy’n briodol i’r pwrpas a’r gynulleidfa
- Dim gwallau a safon sydd bron â bod yn broffesiynol - gwirio sillafu/prawf ddarllen
- Nodiadau siaradwr wedi’u hychwanegu ble bo hynny’n briodol – ceisiwch annog y disgyblion i feddwl am sut i gyflwyno’u gwaith i gwsmeriaid (gallai’r rhain fod yn gyd–ddisgyblion)
- Cyflwyniad wedi’i argraffu ar ffurf taflenni gyda nodiadau (papur neu fformat pdf)
Canllaw i Athrawon –Tasg E-bost (AO2b )
Gellirgosod y gweithdrefnau hyn er mwyn darparu tystiolaeth e-bost ar gyfer AO2b (Gallai’r Tîm Rheoli fod yn athro/athrawes, yn gydweithwyr neu’n gyd-ddisgyblion).
Derbyn e-bost |
E-bost gan y tîm rheoli yn gofyn am gyflwyniad ar drefniadau’r ŵyl eleni. |
Ateb |
Cadarnhau i’r tîm rheoli bod y cais wedi dod i law a nodi dyddiad. |
Ymlaen |
Anfon ymlaen e-bost gwreiddiol at gydweithiwr yn dweud bod angen cwblhau’r cyflwyniad erbyn dyddiad arbennig. |
Anfon (atodiad) |
Anfon fersiwn drafft o’r cyflwyniad i gydweithiwr edrych drosto. Nodwedd e-bost estynedig 1 – Cyn anfon yr e-bost, gallent greu Llofnod e-bost a dylid dangos tystiolaeth ohono yn eu Llyfr Gwaith |
Nodwedd e-bost estynedig 2 – Gosod ateb awtomatig (e.e. allan o’r swyddfa/ar wyliau) – gyda thystiolaeth yn eu Llyfr Gwaith |
|
Derbyn (agor, cadw atodiad) |
Cael fersiwn wedi’i addasu gan gydweithiwr – cadw’r atodiad |
Anfon (mwy nag un derbynnydd + atodiad) |
Anfon y cyflwyniad gorffenedig at y tîm rheoli (mwy nag un derbynnydd) Nodwedd e-bost estynedig 3 - cc a bcc – defnyddio yn briodol ac egluro rhesymau am y ddau Nodwedd e-bost estynedig 4 – Gosod blaenoriaeth (pwysigrwydd mawr ac isel) Nodwedd e-bost estynedig 5 – Defnyddio llyfr cyfeiriadau i gadw, adfer a defnyddio cyfeiriadau e-bost a manylion cysylltiadau personol Tystiolaeth o’r uchod i gyd i’w gweld yn eu Llyfrau Gwaith |
TEILYNGDOD: Dwy nodwedde-bost estynedig
ANRHYDEDD: Pedair nodwedde-bost estynedig
Gofynion TystiolaethOCR
Dylai’rcyflwyniad a gynhyrchir i Amcan Asesu 3 fod yn briodol i’w ddefnyddio mewncyd-destun busnes, i gyd-fynd ag araith. Rhaid i’r ymgeiswyr wneud eupenderfyniadau eu hunain am bwyslais, cynnwys a chynllun y sleidiau ond nid oesgofyn iddynt gynhyrchu tystiolaeth o’u cynlluniau. Mae’n debyg mai allbrintiauo’r cyflwyniad fydd y dystiolaeth argyfer yr Amcan Asesu gan mwyaf, ond byddhefyd rhai saethiadau sgrin i ddangos nodweddion na ellir eu gweld o’r allbrintiaue.e. gwirio sillafu. Gellir defnyddio datganiadau tyst fel tystiolaeth obriodoldeb ac effeithiolrwydd y cyflwyniad yn gyffredinol – gallai’r ymgeiswyrdraethu a defnyddio’r cyflwyniad i esbonio. Ond, os gwneir hyn, y cyflwyniad ynunig y dylai’r ganolfan ei asesu, ac nid pa mor effeithiol oedd y traethu arlafar. Fel arall, gall y ffeil electronig ddarparu tystiolaeth o drawsnewid acanimeiddiadau ac effeithiolrwydd y cyflwyniad yn gyffredinol.
Gallaitystiolaeth ar gyfer elfennau e-bost A02 gynnwys canllaw defnyddio ar gyfergweithiwr newydd ar sut i ddefnyddio e-bost yn effeithiol mewn busnes - gallaihwn fod yn addas fel cynnwys i’r cyflwyniad sydd ei angen ar gyfer A03, neu uno’r dogfennau busnes a grëwyd yn A04 megis llyfryn neu daflen.
Fel arall, gallai’r ymgeiswyr ddefnyddioe-bost mewn cyd-destun busnes, ac anodi eu saethiadau sgrin/allbrintiau fel ybo’n briodol i ddangos eu dealltwriaeth o’r amrywiol gyfleusterau a nodweddione-bost. Ar gyfer graddau uwch, mae rhestr o enghreifftiau o nodweddion e-bostuwch wedi’i chynnwys o dan Gwybodaeth Dealltwriaeth a Sgiliau – nid yw’n rhestrgyflawn gan fod llawer o nodweddion perthnasol ac uwch ar gael o fewn llawer oraglenni e-bost.
Rhaid i’r ymgeiswyr grynhoi peryglon derbynac agor atodiadau e-bost, ac ar gyfer lefel anrhydedd, rhaid iddynt awgrymucamau gweithredu y gellid eu cymryd i leihau’r peryglon hyn.
Sgiliau HanfodolCymru - Lefel 2:
AO2b – Rhaid i dystiolaeth o’r dasg hon fod arlefel Anrhydedd i ateb gofynion SHCar L2
AO3 - Rhaid i dystiolaeth o’r dasg hon fod arlefel Teilyngdod i ateb gofynion SHCar L2
¬ Ar gyfer SHC, rhaidi’r cyflwyniad gynnwys tystiolaeth o rif a chofnodion i ateb gofynion SHC ar L2.
¬ Ar gyferSHC, dylai’r cyflwyniad gyfunogwybodaeth berthnasol o Dasg 4 i ddangos y costau a’r incwm a ragwelir i’r tîmrheoli, ar sail nifer y bobl sy’n mynychu, wedi’i mewnforio fel tablau asiartiau. Rhaid i’r wybodaeth o’r daenlen gael ei mewnforio neu rannauperthnasol eu copïo a’u gludo i mewn i’r cyflwyniad, yn hytrach na’u teipio imewn. Mae hyn oherwydd bod rhaid dangos gallu i gyfuno gwybodaeth o wahanolffynonellau a sicrhau bod y cynllun a’r fformat yn aros yn gyson.
¬ Ar gyfer SHC, ni ddylech chi ddefnyddio unrhywdempledi parod ar gyfer cyflwyniadau ac/neu ddewiniaid ble maent ar gael o fewny meddalwedd.
Gall deunyddiau a grëwyd i’r dasg uchodhefyd ddarparu tystiolaeth i gefnogi:
TGCH2.1.1 - Disgrifio sut y byddwch yn mynd ati igyflawni gweithgaredd sy’n golygu defnyddio TGCh.
(Llyfr Gwaith - Disgrifiwch eich tasg yn fyr)
TGCH2.1.2 - DefnyddioTGCh yn annibynnol i gyflawni’r dasg yn effeithiol. (Llyfr Gwaith – saethiadausgrin wedi’u hanodi)
TGCH2.2.1 - Canfod,dethol a defnyddio gwahanol ffynonellau sy’n cynnwys gwybodaeth briodol sy’n seiliedig ar TGCh ac nad yw’n seiliedigar TGCh. (Llyfr Gwaith - sut y bu i’rymgeisydd ganfod, dethol a defnyddio ffynonellau, ynghyd ag eglurhad o’r rheswmyr oedd y ffynonellau a ddetholwyd yn briodol i’r dasg.)
TGCH2.2.2 - Chwilioam, dethol a chael gwybodaeth berthnasolsy’n seiliedig ar TGCh a gwybodaeth nad yw’n seiliedig ar TGCh. (Llyfr Gwaith –log yr ymgeisydd o’r ffynonellau ychwiliwyd amdanynt, y detholwyd a defnyddiwyd, gan esbonio pam roedd yffynonellau a ddewiswyd yn briodol i’r dasg).
TGCH2.2.3 – Mewnbynnu, cadw, cyfathrebu a chyfnewidgwybodaeth sy’n seiliedig ar TGCh i weddu i’ch diben .
(Llyfr Gwaith – Anfon, derbyn ac ymateb yn briodol i e-bost.Copïo e-bost i eraill fel y bo’n briodol. Cadw e-bost, atodiadau e-bost achyfeiriadau e-bost yn effeithlon).
TGCH2.3.1 - Mewnbynnu, datblygu, fformatio achasglu ynghyd gwybodaeth sy’n seiliedig ar TGCh i ateb eich pwrpas ar ffurf:a) testun, b) tablau, c) delweddau, ch) rhifau, d) cofnodion (LlyfrGwaith – saethiadau sgrin wedi’u hanodi oddatblygiadau a dewisiadau dylunio, drafft 1af ac 2il a fersiynau terfynolwedi’u hargraffu).
TGCH 2.3.2 - Cyflwyno gwybodaeth wedi’i chyfuno, gan ddefnyddiofformatau a chynlluniau cyson sy’n briodol i’ch diben a’ch cynulleidfa, ganddefnyddio TGCh, ac adolygu eich gwaith. (Llyfr Gwaith – dogfennau terfynol wedi’u hanodi. Bydd angen tystiolaeth ychwanegolo adolygu’r dogfennau er mwyn cyflawni meini prawf Sgiliau Hanfodol Cymru).