Ymchwilio am wybodaeth |
|||
Ymchwiliwch mewn ystod o ffynonellau gan gynnwys TGCh am wybodaeth am yr Haul, y Ddaear, y Lleuad a Chysawd yr Haul [gwaith 4 grŵp].
Cytunwch ar feini prawf llwyddiant. Rhowch gyfle i’r dysgwyr gynnal ‘Deialog Dysgwr i Ddysgwr’ yn ystod y dasg er mwyn rhoi adborth i’w gilydd a rhannu syniadau. Cyflwynwch adroddiad ar ffurf megis llyfr mawr, llyfr lloffion, powerpoint, ayyb, cyn ei gyflwyno yn llafar i’r dosbarth neu o fewn grwpiau. Rhowch sylwadau ar waith eich gilydd gan gyfeirio at y meini prawf llwyddiant a osodwyd. Defnyddiwch strategaeth Tair Seren a Dymuniad. Cliciwch ym am esboniad o Strategaeth 'Deialog Dysgwr i Ddysgwr' Clicicwh yma am esboniad o Strategaeth 'Tair Seren a Dymuniad' Defnyddiwch yr adnodd bwrdd gwyn rhyngweithiol i'ch helpu. Cliciwch yma i agor yr adnodd bwrdd gwyn Cliciwch yma i agor yr adnodd Gwyddoniaeth Arlein Cynnal [Ymholiad archwilio]
|