Beth sy'n digwydd i'r gannwyll?
|
Y dysgwyr i archwilio a rhagfynegi pam mae cannwyll yn diffodd wrth ei gorchuddio gyda gwydr.
|
Disgyblion uwch eu gallu i ymchwilio 'a yw cyfaint gwydr a osodir dros gannwyll sy'n llosgi yn cael effaith ar yr amser y mae'n gymryd i ddiffodd?' gan berthnasu hyn i'r ffaith bod bodau dynol angen ocsigen i fyw. Bydd rhaid iddynt:
- fesur cyfaint y gwydrau
- amseru faint mae'n gymryd i'r gannwyll ddiffodd gyda phob cynhwysydd
- gyfleu eu darganfyddiadau drwy graff llinell
Yn ystod y dasg dylech gwestiynnu'n briodol i ddatblygu'r dysgu:
- Allwch chi egluro pam mae'r gannwyll yn diffodd?
- Sut allwch chi fesur cyfaint y cynhwysydd?
- Beth ydych chi'n meddwl fydd yn digwydd wrth i chi newid maint y gwydr?
- Sut mae hyn yn perthnasu i fodau dynol?
- Ydych chi'n meddwl fod eich data yn ddibynadwy? Sut allwch eu gwneud yn fwy dibynadwy?
Disgyblion Bl. 3 a 4 i gyfleu eu harsylwadau trwy luniau a geiriau. Disgyblion Bl. 5 a 6 i gyfleu eu darganfyddiadau trwy dabl a graff llinell.
Gellir hefyd archwilio i weld beth yw cyfaint ysgyfaint plant y dosbarth drwy chwythu balwnau, neu trwy ddefnyddio offer mesur pwrpasol.
[Ymholiad archwilio / prawf teg]
Ffocws sgiliau:
|
Cynllunio - rhagfynegi Datblygu - arsylwi a mesur Datblygu - esbonio
|
|
Diweddarwyd diwethaf: Tuesday, 8 May 2012, 4:16 PM