Creu Hysbyseb
|
Yn dilyn gwaith ar ailgylchu gellir creu hysbyseb teledu. Cyn cychwyn ar y gwaith dylid gofyn i'r disgyblion wylio hysbysebion ar y teledu gan greu meini prawf llwyddiant o beth sy'n gwneud hysbyseb da.
Yn dilyn hyn dylid gwylio engraifft o hysbyseb ailgylchu.
Cliciwch yma i'w agor.
Dylai'r dysgwyr:
- lunio meini prawf llwyddiant ar gyfer hysbyseb
- greu bwrdd stori er mwyn cynllunio eu hysbyseb
- ddewis cerddoriaeth addas ar gyfer y cefndir
- ffilmio y golygfeydd sydd ar eu bwrdd stori
- ddefnyddio rhaglen megis 'movie maker' i olygu'r ffilm
- monitro eu cynnydd gan ail ffilmio fel bo'r angen
- hunan asesu yn unol â'r meini prawf llwyddiant
[Ymholiad gwneud pethau]
Ffocws y sgiliau:
|
Cynllunio - darganfod tystiolaeth, gwybodaeth a syniadau Cynllunio - creu meini prawf Datblygu - monitro cynnydd Myfyrio - adolygu llwyddiant
|
|
Diweddarwyd diwethaf: Tuesday, 8 May 2012, 4:16 PM