Gwneud a defnyddio mesurydd grym |
|||||
Ar ôl cael cyfle i'w defnyddio mae'n syniad da i gael y disgyblion i wneud mesurydd grym. Mae hyn yn gwella eu dealltwriaeth o sut mae mesurydd grym yn gweithio. Adeiladu mesurydd grym Offer: Ril gotwm Esboniwch i'r dysgwyr sut i adeiladu'r mesurydd grym fel y dangosir yn y lluniau. Gofynnwch iddynt benderfynu ar feini prawf llwyddiant cyn gwneud y mesurydd grym? [Ymholiad archwilio]
Ar lefel syml gellir mesur grymoedd a dod i gasgliad bod grym mwy yn ymestyn mwy ar yr elastig. Gellir symud ymlaen i graddnodi'r mesurydd drwy ddefnyddio pwysau g/Kg a chreu graddfa ar y 'dowelling'. Cofiwch greu graddfa mewn newtonau (N). Mae 1N yn gyfwerth a mas o 100g (mwy neu lai). Gellir defnyddio'r mesurydd i fesur grymoedd 'go iawn' wedyn. Gellir ymesyn y weithgaredd i ddefnyddio gwahanol drwch o fandiau elastig. Gallwch drafod pa fand elastig yw'r 'gorau'. Mae elastig tennau/gwan yn rhoi ateb 'cywriach', gydag elatig mawr/trwchus yn mesur grymoedd mwy ond heb fod mor fanwl gywir.
|