Pellter cymharol y planedau |
|||
Gweithgaredd yn Notebook sy'n arwain at greu model o bellteroedd y planedau oddi wrth ei gilydd. I ffitio mewn ystafell gellir defnyddio graddfa 1m: 100 miliwn Km h.y. rhannu pob rhif yn y tabl gyda 100. Bydd hyn yn rhoi Pluton tua 6m o'r Haul. I ffitio ar gae/iard efallai y byddai graddfa 1m : 10 miliwn Km yn addas h.y. rhannu pob rhif gyda 10. Bydd Pluton ar y raddfa yma tua 60 metr i ffwrdd. Bydd 1:20 miliwn (rhannu efo 20) angen 30 metr. Er mwyn i'r holl beth ffitio ar bapur A3 bydd graddfa 1cm : 200 miliwn Km (rhannu efo 200 i gael y cm) yn rhoi Pluton ar ymyl tudalen A3, bydd Mercher ond 3mm o'r ochr arall a'r Ddaear llai na 1cm! Cliciwch yma i agor yr adnodd Notebook gyda phellteroedd y planedau o'r haul [Ymholiad defnyddio a chymhwyso modelau]
|