Dangos dirgryniadau

Ar gyfer dangos sut mae sain yn teithio, tarwch fforch diwnio ar fwrdd, a dirgrynwch y fforch mewn aer.

Gall y disgyblion rhoi'r fforch ar eu trwyn/clust. Bydd y plant yn cael eu cosi gan y dirgryniadau.

Yn ogystal â hyn cewch daro'r fforch a'i rhoi ar wyneb powlen o ddŵr neu mewn peli polisteirin. Bydd y disgyblion yn gallu gweld y dirgryniadau'n cael effaith ar y dŵr a'r peli. Mae hyn yn modelu sut mae sain yn teithio drwy'r aer.

Gofynnwch i'r disgyblion esbonio yn syml sut mae sain yn teithio drwy'r aer.

[Ymholiad adnabod a dosbarthu]

Fforch

Ffocws y sgiliau:

Cynllunio - rhagfynegi
Datblygu - esbonio
Myfyrio - cysylltu'r dysgu

Diweddarwyd diwethaf: Tuesday, 8 May 2012, 4:16 PM